Cwestiynau Cyffredin

Dros y blynyddoedd gofynnwyd llawer o gwestiynau inni am y rhaglen, y broses ddethol a materion eraill. Rydym wedi eu casglu ynghyd a rhoi’r atebion i chi ar ffurf Cwestiynau Cyffredin.

1. Pa mor anodd yw hi i gael lle ym Mangor?

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer y ceisiadau wedi cynyddu’n gyson. Ar gyfer cyfweliadau 2019 cawsom 257 o geisiadau. Fel rheol mae gennym ddeg lle hyfforddi. Fel rheol byddwn yn cyfweld â 36 ymgeisydd.

2. Nid oedd fy ngraddau Lefel A yn dda. A oes gobaith imi fynd ar raglen hyfforddiant clinigol Bangor?

Nid ydym yn ystyried eich Lefelau A. Mae gennym ddiddordeb yn eich perfformiad ar lefel gradd israddedig ac o bosibl y tu hwnt. Byddem yn disgwyl fod yr ymgeiswyr wedi cyflawni o leiaf 2:1 yn eu gradd. Yn anffodus, nid ydym bellach yn ystyried ceisiadau gyda 2.2. neu is, hyd yn oed os ydych chi wedi ennill gradd meistr. Dim ond PhD a allai wneud iawn am radd israddedig isel.

3. Ar hyn o bryd rwyf yng nghanol fy astudiaethau israddedig ac rwy’n ansicr a oes angen gradd 2:1 arnaf. Er imi gyrraedd safon 2: 1 yn y rhan fwyaf o’r asesiadau, safon 2: 2 fu’r canlyniad mewn rhai meysydd. Os caf radd 2:2 yn y pen draw, a wnaiff hynny gyfyngu ar fy siawns?

Mae gofynion academaidd uchel i Raglenni Seicoleg Glinigol a rhaid i chi allu dangos y gallwch ymdopi â’r gofynion hynny. Mae tystiolaeth o lwyddiant mewn astudiaethau israddedig yn dda o beth. Byddwn yn eich annog i ganolbwyntio ar gael gradd 2:1 os oes modd. Gweler hefyd yr ateb i gwestiwn 2.

Os nad yw’ch gradd israddedig o safon 2.1, awgrymaf eich bod yn edrych ar wefan Tŷ Clirio am feini prawf dewis y rhaglenni eraill. Mae yna raglenni sy’n ystyried 2.2 gyda gradd Meistr. Ar raglenni eraill gallwch sefyll arholiad mynediad, waeth beth yw eich gradd israddedig.

4. Rwy’n fyfyriwr israddedig yn fy mlwyddyn olaf ac yn awyddus i astudio seicoleg glinigol. Beth yw’r ffordd orau o fynd ati i gael lle?

Mae angen i chi ganolbwyntio ar ennill y radd academaidd uchaf bosibl. Dyma’ch blaenoriaeth os ydych am wneud yn fawr o’r cyfle. Sicrhewch fod tiwtor academaidd, a fydd yn gallu rhoi geirda academaidd cefnogol iawn i chi, yn sylwi ar eich gwaith.

Rydym hefyd yn disgwyl bod gan ymgeiswyr brofiad taledig o weithio gyda phoblogaeth glinigol sy’n debyg i’r bobl y byddai seicolegydd clinigol yn eu gweld. Fel arfer mae hynny’n golygu ennill profiad cyn a/neu ar ôl cwblhau gradd mewn seicoleg. Mae angen o leiaf blwyddyn o waith taledig, a bydd gan y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr gryn dipyn yn fwy na hynny. Er mwyn cael y mathau hyn o swyddi, mae’n debygol y bydd angen i chi feddu ar brofiad perthnasol arall. Weithiau gall gwaith gwirfoddol fod yn gam tuag at gyflogaeth daledig. Ystyriwch swyddi fel cynorthwyydd gofal, eiriolwr iechyd meddwl, cynorthwyydd ystafell ddosbarth, gweithiwr iechyd meddwl. Gwyddom ei bod yn anodd cael swyddi yn y gwasanaeth iechyd.

Mae yna wahanol lwybrau at le ar raglen hyfforddiant clinigol. Mae gan rai ymgeiswyr gefndir clinigol yn bennaf, a bod wedi gwneud ymchwil a’u bod hefyd yn meddu ar rywfaint o brofiad clinigol.

5. Rwy’n fyfyriwr seicoleg yn fy mlwyddyn olaf ac mae gen i ddiddordeb dilyn gyrfa mewn seicoleg glinigol. Fe’m cynghorwyd i wneud PhD sy’n berthnasol yn glinigol cyn gwneud cais, oherwydd bod y gystadleuaeth mor gryf. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn cytuno bod hwnnw’n llwybr da i’w ddilyn, yn hytrach na chael profiad fel seicolegydd cynorthwyol.

Mae PhD mewn maes clinigol yn llwybr derbyniol at ennill profiad defnyddiol, a fydd wedyn yn gefn i gais am hyfforddiant clinigol. Rydym yn chwilio am gyfuniad o gymhwysedd academaidd, cymhwysedd o ran ymchwil, profiad clinigol a rhinweddau personol. Byddai PhD llwyddiannus yn golygu fod gennych y ddau gyntaf ond nid o reidrwydd y ddau olaf.

6. Rwyf newydd gwblhau gradd, nad yw Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) o reidrwydd yn ei chydnabod. A allaf ddilyn fy niddordeb mewn Seicoleg Glinigol er hynny?

Un o’r gofynion mynediad sylfaenol yw gradd y mae Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yn cydnabod ei bod yn cyflawni Sail Graddedigion ar gyfer Aelodaeth (http://www.bps.org.uk/membership). Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch statws eich rhaglen radd, gofynnwch i aelod o staff eich adran israddedig neu mynnwch olwg ar wefan Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) am y manylion: http://www.bps.org.uk/careers.

7. Nid Seicoleg oedd fy ngradd. Mae gen i ddiddordeb mewn ymchwil clinigol. Tybed pa gyfleoedd sydd i gymryd rhan yn hynny?

Mae’r rhaglen DClinPsy yn rhaglen o hyfforddiant proffesiynol i hyfforddi seicolegwyr clinigol. Os mai ymchwil yn unig yw eich diddordeb, gallech fwrw golwg dros wefan yr Ysgol Seicolegam fanylion unrhyw gyfleoedd ymchwil yn yr adran seicoleg. Efallai y byddai’n werth ymchwilio i’r posibilrwydd o wneud rhaglen drosi mewn seicoleg, a allai gyflawni’r Sail Graddedigion ar gyfer Aelodaeth gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (gweler cwestiwn 6). Ar ôl i chi gwblhau rhaglen drosi, byddai gennych y dewis o wneud cais am hyfforddiant clinigol.

8. Pa fath o brofiad sydd gan ymgeisydd nodweddiadol?

Fel rheol mae gan ymgeiswyr llwyddiannus fwy na 12 mis o gyflogaeth daledig mewn maes sy’n rhoi cyfle iddynt weithio gyda phoblogaeth glinigol debyg i eiddo seicolegydd clinigol. Gweler hefyd gwestiynau 5.

9. Mae gen i flwyddyn neu ddwy o brofiad yn gweithio’n llawn amser ym maes iechyd meddwl ond nid yn uniongyrchol gyda seicolegwyr clinigol. A fydd fy nghais yn cael ei gymryd o ddifrif?

Mae’r profiad rydych chi’n ei ddisgrifio yn swnio’n berthnasol. Nid yw cryfder y profiad sydd gennych o reidrwydd yn dibynnu ar weithio’n uniongyrchol gyda seicolegydd clinigol. Fodd bynnag, hoffem ichi fod wedi gweithio mewn fframwaith seicolegol ac un ffordd o gyflawni hynny yw trwy weithio o dan oruchwyliaeth seicolegydd clinigol. Awgrymwn i chi barhau i feddwl am agweddau seicolegol unrhyw waith a wnewch, hyd yn oed os nad gwaith seicolegol yw ei ffocws.

10. Mae angen profiad gwaith ym maes iechyd meddwl ar rai prifysgolion neu brofiad o ymchwil clinigol. Pa un sydd orau? Rwy’n ei chael hi’n anodd iawn cael profiad gwaith perthnasol. Pa fath o brofiad gwaith sydd ei angen i fod â gobaith go lew o ymuno â’r rhaglen?

Disgwyliwn i ymgeiswyr ddangos rhywfaint o ddealltwriaeth o rôl seicoleg yn y gwaith y maent yn ei wneud. Fel arfer mae hynny’n golygu ennill profiad ar ôl cwblhau gradd mewn seicoleg. Mae angen o leiaf blwyddyn o waith taledig arnom – ond bydd gan y rhan fwyaf o ymgeiswyr lawer mwy na hynny. Yn ogystal â phrofiad clinigol yn unig, mae ymchwil neu brofiad o werthuso gwasanaeth clinigol hefyd yn werthfawr.

11. Rwy’n weithiwr gwirfoddol, sy’n cynnwys helpu rhai sydd ag afiechyd meddwl, ond rwyf newydd gael cynnig swydd fel seicolegydd cynorthwyol. Tybed pa swydd y byddech chi’n edrych yn fwyaf ffafriol arni wrth ystyried ymgeiswyr?

Mae eich gwaith gwirfoddol yn berthnasol a bydd yn gefn i chi wrth i chi ymgeisio am swyddi taledig eraill. Disgwyliwn i ymgeiswyr feddu ar brofiad o gyflogaeth daledig mewn proffesiwn sy’n helpu, a bydd manteision mawr i swydd lle mae goruchwyliaeth seicolegydd clinigol ar gael. Mae gwaith yn y GIG yn hynod fuddiol oherwydd byddai’n eich galluogi i ddod i ddeall y cyd-destun y cewch eich cyflogi ynddo yn ystod yr hyfforddiant.

12. Beth ydych chi’n chwilio amdano mewn ymgeiswyr o ran profiad ôl-radd? A fyddai’n well imi wneud MSc gyda gwaith gwirfoddol neu a fyddai’n well treulio peth amser yn gweithio fel cynorthwyydd seicoleg neu gynorthwyydd ymchwil?

Yn gyffredinol, ni roddir mwy o bwys ar brofiad clinigol nac ymchwil glinigol. Ochr yn ochr â chefndir academaidd cryf, bydd angen i chi feddu ar brofiad clinigol. Mae gradd gyntaf dda, dosbarth 1af neu 2.1 yn gam cyntaf pwysig. Mae rhywfaint o brofiad academaidd neu ymchwil pellach mewn maes sy’n gysylltiedig yn glinigol ar ôl eich gradd yn sicr yn berthnasol. Mae’n debyg y byddai ymchwil anghlinigol yn llai addas o ystyried y byddwch eisoes wedi dangos eich galluoedd academaidd. Gellid hefyd ennill profiad uniongyrchol o weithio gyda phoblogaeth glinigol trwy ymchwil. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael swydd seicoleg gynorthwyol mewn lleoliad clinigol, efallai yr hoffech chi ystyried ennill profiad o weithio gyda phobl mewn cyd-destun clinigol arall sy’n berthnasol i seicoleg glinigol.

13. Erbyn i’r cyfweliadau gael eu cynnal, byddaf wedi ennill 6 mis o brofiad gwaith ond ar hyn o bryd dim ond ychydig wythnosau o brofiad sydd gennyf mewn rôl ofal. A oes diben imi wneud cais nawr? A fyddech chi’n gwrthod fy nghais yn syth bin?

Byddwn yn ystyried y profiad sydd gennych hyd at adeg gwneud y rhestr fer (sy’n tueddu i fod tua chanol mis Chwefror), bydd eich contract yn dod i ben cyn hynny. Rydym yn chwilio am o leiaf blwyddyn o brofiad mewn rôl daledig yn gweithio gyda phoblogaeth glinigol, ond mae profiadau eraill fel gweithio mewn rôl ymchwil hefyd yn cyfrannu – er enghraifft, a fuoch chi’n casglu data gydag unigolion neu grwpiau o bobl?

14. Nid chefais fy nghyflogi am dâl erioed fel seicolegydd cynorthwyol ond, ar ôl gofalu am rywun yn y teulu sydd ag iselder ysbryd, rwy’n teimlo fy mod wedi ennill cyfoeth o brofiad – a yw hyn yn cyfrif?

Mae’r rhaglen yn edrych yn gadarnhaol ar ymgeiswyr sydd â phrofiadau personol. Er nad yw profiadau o’r fath o reidrwydd yn gyfwerth â chyflogaeth broffesiynol, maent yn gwneud cyfraniad da a gallech sôn amdanynt yn natganiad personol y ffurflen gais. Fodd bynnag, bydd angen y profiad taledig perthnasol ychwanegol arnoch fel y nodir yn y cwestiynau blaenorol yn gefn i’ch cais.

15. Mae’n anodd iawn cael swyddi seicoleg cynorthwyol. Sut arall y gallaf ennill y profiad sydd ei angen?

Gwyddom ei bod hi’n anodd cael swyddi cynorthwywyr y dyddiau hyn. Fodd bynnag, nid drwy swyddi seicolegwyr cynorthwyol yn unig y mae ennill profiad. Rydym yn chwilio am brofiad taledig o weithio gyda phoblogaeth glinigol, yn debyg i brofiad seicolegydd clinigol. Gallech wneud hynny er enghraifft trwy weithio fel cynorthwyydd gofal mewn cartref gofal i bobl hŷn, gweithio gyda phobl sydd ag anabledd deallusol neu gorfforol, eiriolwr iechyd meddwl neu gynorthwyydd dosbarth. Gall swydd IAPT fod yn ddefnyddiol, yn ogystal â swyddi iechyd meddwl eraill. Yr her mewn swydd lle nad yw’r oruchwyliaeth gan seicolegydd clinigol, yw cadw ffocws ar elfen seicolegol eich gwaith.

16. Yn y gorffennol, bûm yn gweithio ym myd busnes mewn maes sydd i’w weld yn berthnasol i seicoleg glinigol. A fydd hyn yn cael ei ystyried yn berthnasol?

Gallwn ystyried bod gwaith neu brofiad busnes a chymunedol mewn proffesiwn gofalu yn berthnasol pe bai hynny’n cynnwys gweithio gyda phobl sydd hefyd o dan gylch gwaith seicolegydd clinigol. Bydd angen i chi egluro natur eich gwaith yn glir yn eich cais.

17. Rwy’n Seicolegydd Clinigol hyfforddedig yn yr Eidal – a oes rhaid imi wneud y rhaglen DClinPsy i fedru gweithio yn y Deyrnas Unedig?

I bobl sydd wedi’u hyfforddi mewn seicoleg glinigol mewn mannau eraill (yn enwedig yng Ngwledydd eraill yr UE) – gwneir darpariaeth gan Gyngor y Proffesiynau Gofal Iechyd. Awgrymaf ichi gysylltu â nhw am fwy o wybodaeth (http://www.hcpc-uk.org).

18. Nid wyf yn ddinesydd UE. A allaf wneud cais i’r rhaglen?

Os cynigir lle i rywun ar Raglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru, mae Llywodraeth Cymru’n talu’r holl ffioedd dysgu a thelir cyflog i’r hyfforddai ac mae ganddo/ganddi statws cyflogaeth yn y Deyrnas Unedig. Ni wnaiff Llywodraeth Cymru dalu costau ffioedd ymgeiswyr sy’n gymwys i dderbyn ffioedd tramor. Mae yna raglenni eraill yn y Derynas Unedig sy’n ystyried ymgeiswyr sydd â ffyrdd eraill o ariannu eu hyfforddiant. Awgrymaf i chi fwrw golwg ar wefan y Tŷ Clirio. Oherwydd nad yw canlyniad Brexit yn glir hyd yma, rydym yn eich cyfeirio at wefan y Tŷ Clirio am fwy o wybodaeth.

19. Rwy’n poeni a oes cyfyngiad oedran uchaf ar gyfer yr hyfforddiant. A fydd fy oedran yn broblem o ran cael lle ar y rhaglen a sicrhau cyflogaeth wedi hynny?

Nid oes cyfyngiad oedran penodol ar gyfer hyfforddiant ac mae proffil oedran amrywiol ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus.

20. Beth yw profiad ymgeiswyr Du/Asiaidd/lleiafrifoedd ethnig wrth ymgeisio am le ar y rhaglen?

Rydym yn frwd iawn dros gael pobl o ddiwylliannau a chefndiroedd amrywiol i hyfforddi fel seicolegwyr clinigol oherwydd mae hynny’n adlewyrchu’r gymysgedd amlddiwylliannol sydd ym mhoblogaeth y Deyrnas Unedig. Gwyddom nad oes digon o gynrychiolaeth o blith y lleiafrifoedd du ac ethnig yn y proffesiwn. Mae hyfforddeion o’r cefndiroedd hynny wedi cwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus gyda ni.

21. Mae gen i anabledd a allai ei gwneud hi’n anodd i mi gymryd rhan yn y cyfweliadau. A allech chi roi rhywfaint o gyngor imi?

Rydym yn annog ymgeiswyr sydd ag anableddau i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael cynnig cyfweliad. Byddwn yn ymgynghori â chi fel ymgeisydd, er mwyn ceisioi gwneud unrhyw addasiadau rhesymol ar eich cyfer yn ystod y broses gyfweld.

22. Mae gen i gyflwr iechyd cronig. A fyddai hynny’n fy atal rhag gwneud cais?

Disgwyliwn i bob ymgeisydd llwyddiannus gael ei sgrinio trwy Iechyd Galwedigaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Os bernir eich bod yn ffit i weithio fel seicolegydd clinigol dan hyfforddiant, ni fyddwch yn cael eich atal rhag parhau â’r rhaglen. Byddwn yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol i hwyluso’r hyfforddiant i chi. Gallai hynny olygu y bydd oedi cyn i’r hyfforddiant ddechrau, er mwyn caniatáu inni roi’r addasiadau gofynnol ar waith.

23. Mae fy mhryder pennaf yn ymwneud â pha mor addas yw’r rhaglen i rywun anabl? Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw feddyliau neu sylwadau sydd gennych ar y mater hwn.

Ein nod yw rhoi cefnogaeth ymarferol i hyfforddeion sydd ag anabledd. Fodd bynnag, mae anghenion unigol pawb yn wahanol, ac yn yr achos yma awgrymwn i chi gysylltu â c.lamers@bangor.ac.uk (Tiwtor Derbyn).

24. A yw’r rhaglen yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn?

Mae safle’r brifysgol yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ac felly hefyd yr holl ystafelloedd addysgu a’r ystafelloedd adnoddau, yn ogystal â swyddfa staff y rhaglen. Rydym yn cynnal arolygon o’r lleoliadau’n rheolaidd i asesu pa leoliadau a all ddarparu mynediad i hyfforddeion sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Os cysylltwch â ni’n uniongyrchol, cewch yr wybodaeth ddiweddaraf gennym am hynny.

25. Sut allwn i wella fy ffurflen gais a gwneud iddi sefyll allan?

Rydym yn asesu eich ffurflen gais ar amrywiol agweddau, gan gynnwys gwallau sillafu a gramadeg. Bydd y ffurflenni sydd wedi’u llenwi’n gywir, a’r cwestiynau wedi’u hateb yn ôl y gofyn, yn rhoi argraff dda. Nid oes llawer o le ar y ffurflen gais i chi fynegi chi’ch hun. Tynnwch sylw at berthnasedd eich profiad i seicoleg glinigol. Peidiwch â cheisio gorlwytho gwybodaeth ychwanegol trwy ddefnyddio ffontiau bach ac ati. Cofiwch ofyn i’ch canolwyr bob amser a ydynt yn hapus i ysgrifennu geirda o’ch plaid chi.

26. Nid wyf wedi cael cynnig cyfweliad eleni, a gaf i adborth am fy ffurflen gais?

Gallwch gysylltu â Carolien Lamers ar amser penodol a nodir yn y llythyr i gael gwybod y canlyniad. Byddem hefyd yn argymell eich bod yn edrych yn ofalus ar y Cwestiynau Cyffredin yma er mwyn i chi allu nodi’r meysydd hynny y mae gennych gryfderau a gwendidau ynddynt. Nid ydym bellach yn rhoi adborth dros y ffôn ynglŷn â cheisiadau.

27. Beth ydych chi’n chwilio amdano mewn cyfweliad?

Rydym yn chwilio am y rhinweddau sydd eu hangen ar seicolegydd clinigol cymwys fel sgiliau cyfathrebu, meddwl seicolegol a dadansoddol. Yn y cyfweliadau, rydym am gael cip ohonoch fel person a gweld a oes gennych chi’r sgiliau academaidd i ymdopi â’r rhaglen. Bydd cynrychiolwyr defnyddwyr y gwasanaeth a’r gofalwyr yn awyddus i weld a allant weithio gyda chi.

28. A fyddai’n bosibl galw i mewn i gael sgwrs gyda rhywun ynglŷn â fy addasrwydd ar ryw adeg?

Credwn y gwelwch chi atebion i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau yn y ddogfen hon a dogfennau eraill y rhaglen fel cofnod y Tŷ Clirio a’r Llawlyfr Amgen. Os oes gennych gwestiwn penodol nad ydym wedi rhoi sylw iddo anfonwch e-bost at:c.lamers@bangor.ac.uk.

29. Beth yw’r Llawlyfr Amgen?

Mae Pwyllgor Cysylltiedig y DCP yn llunio ac yn cyhoeddi’r llawlyfr bob blwyddyn, trwy anfon holiaduron at hyfforddeion pob rhaglen. Ar hyn o bryd gallwch ddarllen safbwyntiau a phrofiadau ein hyfforddeion cyfredol. Edrychwch ar www.bps.org.uk Grŵp Cyn-gymhwyso DCP.

30. Pwy fydd yn fy nghyflogi?

Cyflogir pob hyfforddai ar gontract am gyfnod penodol o dair blynedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB). Mae BCUHB yn darparu gwasanaethau iechyd acíwt, cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i Ogledd Cymru, a’r rheiny’n cael eu darperu trwy rwydwaith o ysbytai, canolfannau iechyd a chlinigau.

31. A allaf wneud y rhaglen yn rhan-amser?

Nid ydym yn cynnig rhaglen ran-amser. Fodd bynnag, da chi cysylltwch â ni: (c.lamers@bangor.ac.uk) oherwydd gallwn eich helpu os oes gennych ofynion penodol o ran cael mynediad at y rhaglen.

32. Oes rhaid i mi weithio yng Ngogledd Cymru ar ôl i mi orffen y rhaglen?

Nod y rhaglen yw darparu seicolegwyr clinigol ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru. Mae disgwyliad cryf y bydd y rhai sy’n derbyn hyfforddiant yng Ngogledd Cymru yn cymryd swyddi efo’r Gwasanaeth Iechyd yn lleol ar ôl cymhwyso. Weithiau, mae amgylchiadau’n drech na hynny. Fodd bynnag, gobeithiwn y bydd pob hyfforddai’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd fel Seicolegwyr Clinigol cymwys.

33. Faint mae hyfforddeion yn cael eu talu?

Caiff yr hyfforddeion eu talu’n unol ag Agenda Newid gyfredol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae’r hyfforddeion ar Fand 6. (www.nhscareers.nhs.uk/details/).

34. Faint o wyliau blynyddol a gaf?

Byddwch yn cael 27 diwrnod o wyliau’r flwyddyn, 29 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth gyda’r GIG a 33 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth (ynghyd â gwyliau banc).

35. A oes unrhyw arholiadau?

Nac oes, rydym yn defnyddio amrywiaeth o waith rhaglen i asesu cymhwysedd.

36. A fyddaf o dan anfantais os na allaf siarad Cymraeg?

Oherwydd bod cyfran sylweddol o’r cleientiaid yn siarad Cymraeg, mae anogaeth gref i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg wneud cais. Ar gyfartaledd mae gennym un neu ddau o hyfforddeion Cymraeg y flwyddyn, sy’n golygu nad yw’r rhan fwyaf o’r ymgeiswyr llwyddiannus yn siarad Cymraeg. Rydym yn cynnig cefnogaeth i chi ddysgu Cymraega mynd i’r ysgol haf. Mae cyfanswm yr ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg ar draws yr holl raglenni yn parhau i fod yn isel, sef tua 1% o’r holl ymgeiswyr ledled y Deyrnas Unedig.

37. Beth yw amser dechrau a gorffen y diwrnod gwaith fel y gallaf wneud y trefniadau gofal plant cyn imi ddechrau?

Mae’r dysgu fel arfer yn dechrau am 9.30 ac yn gorffen am 5.00pm. Mae’r dysgu’n digwydd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Gwneir trefniadau gweithio unigol gyda hyfforddeion pan fyddant yn cychwyn ar eu lleoliadau mewn cydweithrediad â’u goruchwylydd clinigol. Gan eich bod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae’n ofynnol i chi weithio 37.5 awr yr wythnos.

38. A fyddaf yn cael cyfle i ddatblygu mewn ffordd hyblyg h.y. a oes cyfleoedd imi ddatblygu fy ngwybodaeth am y meysydd sydd o ddiddordeb imi o ran y dysgu a’r lleoliadau?

Rydym yn ymdrechu i’ch hyfforddi mewn amrywiaeth dda o ddamcaniaethau, dulliau, ymyraethau, ymchwil a materion proffesiynol. O ran dulliau therapiwtig, rydym yn canolbwyntio ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol a therapïau’r Drydydd Don: Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi a Sgema, Therapi Derbyn ac Ymrwymiad, a Therapi Ymddygiad Dialectig. Ar y lleoliadau, rhoddir peth ystyriaeth i’ch anghenion a’ch dymuniadau datblygiadol penodol chwithau. Gall hynny ddigwydd yn arbennig yn y drydedd flwyddyn pan gewch chi ddewis eich lleoliad dewisol. Mae disgwyl i chi wneud eich holl leoliadau clinigol yn ardal Gogledd Cymru. Yn y rhan fwyaf o’r aseiniadau academaidd mae’r tasgau’n caniatáu ichi ganolbwyntio ar faes neu bwnc clinigol sy’n berthnasol ar adeg eich hyfforddiant a’ch diddordeb.

39. A fyddai angen i mi allu gyrru?

Er bod y dysgu’n digwydd ym Mangor, gall y lleoliadau clinigol fod mewn amryw o leoedd ledled Gogledd Cymru. Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus bob amser yn ymarferol wrth orfod ymweld â chartrefi ac yn y blaen. Felly, byddai’n dda o beth petai gan yr hyfforddeion drwydded yrru lawn a’u bod yn berchen ar gar neu’n manteisio ar Gynllun Car Prydles y GIG. Gwneir addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn gallu gyrru oherwydd anabledd.

40. A fyddaf yn cael PhD ar ddiwedd yr hyfforddiant?

Bydd yr hyfforddiant i fynd yn seicolegydd clinigol yn rhoi Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol i chi. Mae hyn yn wahanol i radd PhD, sy’n radd ymchwil a geir trwy gwblhau darn o ymchwil diffiniedig, a hynny fel arfer dros gyfnod o 3 blynedd. Bydd yr hyfforddiant clinigol yn cynnwys sawl darn o waith academaidd, gan gynnwys tri phroject ymchwil. Mae’r darn cyntaf o waith yn cynnwys cynnal dadansoddiad ar set ddata fawr. Mae un project yn gweithio gyda data sy’n bodoli eisoes gan un o wasanaethau’r Bwrdd Iechyd i ateb cwestiwn sy’n ymwneud ag archwilio sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth (ac y mae’n ei gynhyrchu’n aml). Y project mwyaf yw ymchwil sy’n berthnasol yn glinigol, a gaiff ei gynllunio a’i gynnal gennych chi. Byddwch yn treulio rhyw 24 mis yn gwneud y gwaith hwnnw a bydd arholiad vice voce arno.

41. Ni fyddaf yn cwblhau fy ngradd PhD tan ar ôl y cyfweliadau a bydd fy Viva ar ôl i’r Rhaglen ddechrau fis Hydref. A wnewch chi ystyried fy nghais?

Byddwn yn ystyried eich cais gan ddefnyddio ein meini prawf dewis, ond ni allwn ddyfarnu pwyntiau i chi am y PhD oherwydd na fydd hwnnw wedi’i gwblhau ar yr adeg y byddwn yn llunio’r rhestr fer.

42. Pryd mae’r rhaglen yn cychwyn yn union?

Bydd y rhaglen yn dechrau ar y dydd Llun agosaf at y 1afo Hydref. Ar gyfer 2019, y dyddiad dechrau fydd 30 Medi.

43. Mae angen geirda arnoch gan fy nghyflogwr presennol. Dim ond ers ychydig fisoedd y bûm yn gweithio gyda nhw ac rwy’n teimlo y byddai fy nghyflogwr blaenorol yn gallu rhoi geirda gwell, gan eu bod yn fy adnabod yn well. Beth hoffech imi ei wneud?

Hoffem i chi ddarparu geirda gan eich cyflogwr presennol. Cofiwch ofyn bob amser a yw’ch cyflogwr yn teimlo y gall roi geirda cefnogol i chi. Mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr ddigon o brofiad ac maen nhw mewn sefyllfa dda i roi geirda. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y cewch ofyn i gyflogwr blaenorol a pheidiwch ag anghofio egluro pam nad oedd eich cyflogwr presennol yn gallu darparu’r geirda.

44. Sut bydd y Rhaglen yn cysylltu â mi i roi gwybod a wyf wedi llwyddo i gael cyfweliad?

Defnyddiwn y cyfeiriad e-bost a roesoch ar ffurflen gais y Tŷ Clirio. Gwyliwch nad yw ein he-byst wedi mynd i’r ffolder sbam. Hefyd, rhowch wybod inni am unrhyw newidiadau yn eich manylion cyswllt.