Cynrychioli Hyfforddeion
Mae cynrychiolwyr hyfforddeion ar holl bwyllgorau’r rhaglen ac ar Banel y Bobl, ac ymgynghorir â hyfforddeion wrth drefnu’r addysgu academaidd.
Gofynnir hefyd i hyfforddeion roi sylwadau ar yr holl sesiynau addysgu ac mae gofyn iddynt lenwi ffurflen adborth ar bob lleoliad y maent yn mynd iddo.